Welsh-language response:

 

Pa effeithiau y mae costau byw cynyddol wedi'u cael ar eich sefydliad a'ch sector hyd yn hyn?

 

Mae Llenyddiaeth Cymru, fel ar draws yr holl sector llenyddol a’r celfyddydau, yn cychwyn teimlo effaith yr argyfwng costau byw. Rydym eto i weld y gwir effeithiau, ond yn tybio’n gryf y byddant oll yn cael effaith ar bob agwedd o’n gweithgaredd.

 

Rydym yn ffodus o fod yn gwmni celfyddydol cenedlaethol sydd â gorbenion eithaf bychan, ond mae’r effaith arnom ni yr un mor arwyddocaol. Mae gennym nifer o fesurau lliniarol mewn lle, a hyblygrwydd i addasu ein rhaglen yn weddol gyflym mewn ymateb i amgylchedd allanol, felly nid ydym yn rhy bryderus am hyfywedd yr elusen. Fodd bynnag, mae’r argyfwng costau byw yn cael gwir effaith uniongyrchol ar ein gwaith, ein pobl a’r cymunedau yr ydym yn gweithio gyda.

 

Pa effeithiau ydych chi'n rhagweld y bydd costau cynyddol yn eu cael ar eich sefydliad a'ch sector? I ba raddau y bydd yr effeithiau hyn yn ddiwrthdro (e.e. lleoliadau’n cau, yn hytrach na chyfyngiad dros dro ar weithgareddau)?

 

Costau Rhedeg Adeilad

 

TŷNewydd, Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru, yw ein prif bryder. Yno yr ydym yn cynnal cyrsiau ac encilion ysgrifennu creadigol preswyl. Mae prisiau egni yn NhŷNewydd yn debygol o godi 235% y flwyddyn nesaf, sydd yn golygu cost ychwanegol o £15,000 i ni fel elusen. Mae costau bwyd eisoes wedi codi o 10-12%, ac yr ydym yn dychmygu y bydd yna gynnydd tebyg mewn costau eraill megis gwasanaeth golchi dillad, glanhau a gwasanaeth tacsi. Mwyafrif gwariant TŷNewydd yw ffioedd awduron a darllenwyr gwadd, gyda gwariant o £63,000 yn ystod y flwyddyn arferol ddiwethaf cyn Covid. Ar gyfer rhaglen 2023, rydym yn codi ffioedd awduron a darllenydd gwadd o 10%, ac yn bwriadu trosglwyddo’r cynnydd hwnnw i gwsmeriaid. Fel canolfan gyda chyfran uchel o gwsmeriaid ffyddlon sy’n dychwelyd, tybiwn y bydd y cynnydd mewn ffioedd yn golygu siom a gwrthwynebiad, gydag effaith posib iawn ar ein ffigyrau gwerthiant.

 

Mae TŷNewydd yn adeilad mawr Graddd II*, yn dyddio o’r 15fed ganrif ac yn gyn gartref I’r Prif Weinidog David Lloyd Gorge. Fel elusen gelfyddydol fechan, rydym yn gwneud ein gorsu glas I gadw’r adeilad mewn cyflwr da, ond yn gynyddol bryderus y bydd y costau cynyddol, a’r gwerthiant is, yn golygu y bydd safon cynnal a chadw’r adeilad yn llithro, a hynny ar ben dwy flynedd anodd oherwydd Covid-19.

 

Pe byddwn yn parhau ar yr un trywydd ar hyn o bryd, mae’n bryder cynyddol ynglŷn âhyfywedd ein rhaglen artistig, a byddem yn annhebygol o allu cystadlu gyda sefydliadau tebyg yn Lloegr oherwydd natur fechan ein canolfan.

 

Awduron

 

Mae llawer o’r awduron a’r hwyluswyr yr ydym yn gweithio gyda nhw yn artistiaid llawrydd, heb unrhyw incwm cyson a dibynadwy yn dod i mewn yn fisol. Gallai’r pwysau ar ysgolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau effeithio ar faint o waith sydd ar gael ar gyfer ein hawduron, a bydd angen i awduron yn eu tro gynyddu eu cyfraddau tâl dyddiol a fydd yn rhwystr pellach i drefnwyr digwyddiadau. Mae Llenyddiaeth Cymru yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan werthoedd ac yr ydym wedi ymrwymo i dalu ffioedd teg i awduron, ochr yn ochr â threuliau sy’n codi’n gyflym. Heb y gallu i adennill llawer o’r cynnydd mewn costau gan ein partneriaid a’n cyllidwyr, efallai y bydd angen i ni leihau faint o waith sydd gennym ar gael er mwyn gallu talu’n briodol am y gwaith yr ydym yn ei gyflawni. Pryderwn felly am les awduron, a’u gallu i barhau i gefnogi’r math yma o waith, a fyddai’n hynod o andwyol i’r ecosystem lenyddol, ein gwaith a chyflawniad ein nodau. Rydym eisoes yn gweld llawer mwy o geisiadau am daliadau ar unwaith, neu daliad ymlaen llaw, gan weithwyr llawrydd oherwydd caledi economaidd, ac rydym yn dechrau clywed am artistiaid dawnus o Gymru yn gadael eu proffesiynau oherwydd ofnau am y dyfodol.

 

Staff

 

Rwy’n siŵr ei bod yn gyffredin ar draws y sector celfyddydau bod staff dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi derbyn codiadau cyflog nad ydynt yn uwch na chyfraddau chwyddiant. Eleni llwyddwyd i roi codiad o 4% i'n gweithwyr, yn rhannol diolch i'r grant portffolio ychwanegol o 1.5% a gawsom gan CCC. Er mwyn cadw staff a chadw morâl yn uchel hoffem gadw ein cyflogau o leiaf yn unol â chwyddiant, ond mae hyn yn edrych yn heriol ar hyn o bryd a bydd yn dibynnu ar weithgarwch codi arian llwyddiannus, gan ein bod yn disgwyl grant sefydlog gan CCC yn 23/24. Mae dwy ran o dair o’n gweithwyr yn ennill llai na chyflog amser llawn cymedrig yr ONS yn y DU (£31,447) felly maent yn debygol o gael eu heffeithio’n fawr gan yr argyfwng. Mae morâl yn uchel ar hyn o bryd, ac mae’r tîm yn deall ond rydym yn pryderu am effaith staff yn gadael y sector yn y dyfodol wrth i’r argyfwng ddyfnhau. Ar draws y sector mae gweithwyr proffesiynol profiadol yn gadael ac rydym yn clywed bod sgiliau fel codi arian, cyfathrebu a chyllid o dan fygythiad yn benodol oherwydd y sgiliau trosglwyddadwy sydd gan yr aelodau staff hynny. Er nad ydym eto mewn argyfwng staffio o fewn Llenyddiaeth Cymru, rydym yn ofni ein gallu i gadw staff a/neu lenwi swyddi gwag yn briodol.

 

Pa ymyriadau yr hoffech eu gweld gan Lywodraethau Cymru a’r DU?

 

Efallai ei fod yn deimlad dymunol ond byddai cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer artistiaid, sy’n adlewyrchu Iwerddon, yn datrys llawer o faterion o fewn y sector celfyddydau llawrydd ac yn dangos i’n gweithlu creadigol ledled Cymru bod eu gwaith yn werthfawr a bod lle iddynt fod yn greadigol. Credwn y byddai hynny nid yn unig yn cael effaith ar yr artistiaid eu hunain, ond hefyd ar safle Cymru ar lwyfan y byd.

 

Yn fwy ymarferol, hoffem weld cymorth wedi’i dargedu ar gyfer adeiladau sy’n cael eu rhedeg gan sector y celfyddydau i’w galluogi i gadw eu drysau ar agor pan fyddant yn wynebu costau rhedeg seryddol. Nid gofod perfformiadau yn unig yw llawer o ganolfannau celfyddydau Cymru, ond canolbwyntiau cymunedol hanfodol ac rydym mewn perygl o’u colli.

 

Fodd bynnag, yn bennaf hoffem weld cynnydd yn y cyllid ar gyfer sector y celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru i’w drosglwyddo i’w sefydliadau portffolio, yn debyg i ddyfarniad y llynedd, ond a gyhoeddwyd yn gynharach yn y flwyddyn ariannol er mwyn caniatáu i sefydliadau gynllunio’n effeithiol. Y llynedd roeddem eisoes wedi dechrau sgyrsiau anodd gyda’r tîm am ein hanallu i ddarparu codiad cyflog, a’r gostyngiad angenrheidiol yn ein rhaglen, cyn i’r cyllid ychwanegol o 1.5% gael ei gadarnhau ar 29 Mawrth.

 

Teimlwn ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru gydnabod, y tu hwnt i ddarparu mwynhad ac adloniant, fod y celfyddydau yn darparu gwasanaeth pwysig i gymdeithas – gan ddarparu elw ar fuddsoddiad. Mae'r celfyddydau yn hybu'r economi drwy ddenu cynulleidfaoedd i leoliadau ledled Cymru; uwchsgilio unigolion trwy gynlluniau datblygu, paratoi gweithlu creadigol ar gyfer cyflogaeth; ac efallai’n bwysicach fyth, mae’r celfyddydau yn cefnogi’r gwasanaeth iechyd drwy gyfrannu at fuddion iechyd a llesiant i’r rhai sy’n cymryd rhan yn ein gweithgaredd. Yn 2019, cyhoeddwyd yr adroddiad tystiolaeth mwyaf erioed ar y celfyddydau ac iechyd, sy’n ymdrin â chanfyddiadau dros 3,500 o astudiaethau cyhoeddedig ac yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o rôl y celfyddydau wrth gefnogi iechyd yn fyd-eang.

 

Rydyn ni’n gwybod bod ymwneud â llenyddiaeth yn gallu helpu i fynd i’r afael â rhai o’r problemau hynod heriol hyn. Er na all hynny leihau tlodi, mae’n gallu helpu pobl i ddygymod yn well â straen, yn ogystal â gwella llesiant cyffredinol pobl a lleddfu gorbryder ac unigrwydd.  Mae hefyd yn gallu gwneud pobl yn hapusach a rhoi hwb i’w hunanhyder, ynghyd â chyfrannu at greu cymunedau mwy cysylltiedig a chydlynus. Mae’r dystiolaeth o'r effaith yn gryf wrth edrych ar nifer o’n prosiectau cyfranogi cymunedol ni’n hunain. Mae llawer o’n gwaith yn y maes hwn wedi cyrraedd rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed ac ymylol yn y gymdeithas, gan gynnwys pobl mewn cartrefi gofal, ffoaduriaid a phobl sy’n byw gydag anableddau meddyliol a chorfforol.

 

Nawr yn fwy nag erioed, dylid defnyddio llenyddiaeth i drin cynnydd sydyn mewn salwch meddyliol a chorfforol hirdymor, ac mae modd gwneud hynny mewn unrhyw leoliad yng Nghymru, bron iawn.  Mae llenyddiaeth yn adnodd grymus (a rhad) i wella canlyniadau llesiant, a gall wneud cyfraniad aruthrol at wella bywydau pobl Cymru. Gall hefyd fod yn fodd o greu gweithluoedd a chymunedau mwy gwydn, ac mae’n bosibl ei ddefnyddio law yn llaw â chamau ataliol eraill i wella afiechyd (ac afiechyd meddyliol yn enwedig).